P-05-733– Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Savage ar ôl 30 o lofnodion ar-lein a dros 400 o lofnodion papur. Casglodd deiseb gysylltiedig 497 o lofnodion ar wefan e-ddeiseb amgen
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â chymryd camau pellach o ran NVZ yng Nghymru. Byddai cyflwyno’r gyfarwyddeb hon yn rhoi pwysau aruthrol ar ddiwydiant llaeth sydd eisoes yn crebachu, ynghyd â chymunedau gwledig yn ehangach. Ni yw asgwrn cefn economi Cymru, Dim Ffermwyr, Dim Bwyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Preseli Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru